Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

E&S(4)-04-12 papur 2

 

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru – Tystiolaeth  gan Banel y Sector Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

 

Yn Sector Ynni a’r Amgylchedd, sy’n cael ei ddiffinio yn ‘Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd’ fel un o’r chwe sector allweddol bwysig yng Nghymru, y cafwyd y twf mwyaf o holl sectorau Cymru rhwng 2005 a 2008. Yn ogystal â’i bwysigrwydd i’r economi o ran creu swyddi a chyfrannu at Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP), mae’r sector yn chwarae rôl hanfodol yn galluogi sectorau diwydiannol eraill, ac mae’n gynyddol bwysig ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd mewn perthynas â phryderon am y newid yn yr hinsawdd, y cyflenwad ynni a diogelwch ynni.

 

Mae’n dull rheoli sector yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd rhoi Cymru ar flaen y gad o ran trosglwyddo i economi ddiwastraff, carbon isel yn gyfle i gwmnïau o Gymru gael mantais gystadleuol ac elwa ar farchnadoedd cartref a rhyngwladol cynyddol. I’r perwyl hwn, mae tîm y Sector Ynni a’r Amgylchedd, o dan gyfarwyddyd ei banel y sector preifat, yn llunio rhaglen weithredu i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd sy’n gysylltiedig â’r sectorau canlynol:

 

§  Menter newydd (mae hyn yn cynnwys smart-grid, meicrogynhyrchu a thrydaneiddio trafnidiaeth);

§  Ynni adnewyddadwy;

§  Nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol;

§  Defnyddwyr Ynni Dwys;

§  Cynhyrchu mawr a datgarboneiddio.

 

Mae’r Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd wedi nodi ‘Arian, Grid a Chydsyniad’ fel y tri phrif fesur galluogi ar gyfer denu a datblygu prosiectau ynni yng Nghymru – felly mae cynllunio a’r fframweithiau rheoleiddio cysylltiedig yn gwbl allweddol.

 

I roi’r sector yn ei gyd-destun, Gwynt y Môr yw un o’r ffermydd gwynt mwyaf ar y môr sy’n cael eu hadeiladu yn y byd, gyda chapasiti o 576 megawat yn cael ei osod. Mae’n fuddsoddiad o £2 biliwn a fydd yn dod ag £20 miliwn yn uniongyrchol i gymunedau arfordir y Gogledd drwy gydol y prosiect, yn ogystal â £2.2 miliwn mewn contractau lleol yn ystod y gwaith adeiladu, ynghyd â swyddi cynaliadwy pan fydd yn gweithio. Byddai adeiladu atomfa newydd Wylfa yn fwy o fuddsoddiad i’r DU na Gemau Olympaidd 2012.

 

Gall Cymru ddenu’r fath brosiectau ynni adnewyddadwy oherwydd ein hadnoddau naturiol niferus, sy’n rhoi’r potensial i’r wlad ddatblygu enw da am ragoriaeth mewn ynni carbon isel. Fodd bynnag, mae’r Panel wedi mynegi’n glir bod y system bresennol, ac yn arbennig y ffordd y caiff ei gweinyddu, yn cyfleu bod Cymru’n lle anodd i fasnachu. Mae hyn yn golygu bod y wlad ar ei cholled o ran denu buddsoddiadau ynni mawr a phrosiectau arddangos, sy’n mynd i leoedd eraill, yn enwedig yr Alban.

 

 

Prif awydd y Panel yw creu proses reoleiddio a chydsyniadau symlach a haws sy’n ymateb yn gyflym, boed i ddweud ‘ie’ neu ‘na’. Er mwyn denu buddsoddiad i Gymru sy’n creu cyflogaeth a chyfoeth hirdymor a chynaliadwy, mae’n rhaid gweinyddu’r system hon mewn ffordd sy’n cynnig penderfyniadau cyson, atebolrwydd gan y rheini sy’n gwneud penderfyniadau, yn seiliedig ar bolisi hirdymor a sefydlog i roi sicrwydd penodol i fusnesau a helpu i leddfu risgiau i fuddsoddwyr. Nid yw ffurf hyn, h.y. a yw’r pwerau ar lefel Cymru neu ar lefel y DU, yr un mor bwysig. Mae’r agwedd hon hefyd yn berthnasol i’r mater o sefydlu un corff amgylcheddol. Ond yn y ddau achos mae’r Panel yn cynghori’n gryf y dylai cyngor ac ymgynghori â’r diwydiant fod yn ganolog, ac y dylid cael cynrychiolwyr busnes ar fwrdd prosiect yr Un Corff Amgylcheddol.

 

Mae’r Panel o’r farn bod angen cydgysylltu a chydweithredu ar lefel uwch ar seilwaith mawr i gefnogi’r sector. Mae’n argymell sefydlu grŵp galluogi lefel uwch rhwng Llywodraeth Cymru ar diwydiant i ddelio âmaterion seilwaith a rheoleiddio, ac mae wedi trafod y posibilrwydd o sefydlu Grŵp Cynghori Ynni Adnewyddadwy Cymru, gan grybwyll llwyddiant SRF yn yr Alban.

 

Mae’r Panel Sector wedi canmol y gwaith i ddatblygu’r ‘Ynys Ynni’ oherwydd ei fod yn ceisio tynnu ynghyd y materion polisi, y materion cydsynio a’r materion lleol ynghyd i geisio mynd i’r afael â nhw yn holistaidd, ac ystyried cylch bywyd cyfan y prosiect ochr yn ochr ag awdurdodau cynllunio lleol ac awdurdodau canolog.

 

Mae’r Panel wedi nodi y gallai dynodi Parthau Menter, yn enwedig Parthau Menter ar gyfer sectorau penodol, roi hwb i sectorau blaenoriaeth, yn arbennig os caiff hyn ei gysylltu â phrosesau cynllunio symlach ac ymyriadau ariannol. Byddai menter o’r fath, pe bai modd cynnwys manteision go iawn i fusnesau, yn rhoi neges bendant bod Cymru ‘ar agor i fusnes’. Gallai ddenu cyllid ychwanegol, er enghraifft drwy weithio gyda Chanolfannau Arloesi Technoleg y Bwrdd Strategaeth Technoleg. 

 

Argymhellion penodol:

 

TARGEDAU

·         Argymell i Lywodraeth Cymru bod y targedau ym Mholisi Cynllunio Cymru yn cael eu mabwysiadu fel targedau rhwymol cadarn a fydd yn ystyriaethau materol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio am brosiectau ynni adnewyddadwy.

·         Dylid cadarnhau’r targedau capasiti ar gyfer gwynt ar y tir o fewn a thu allan i’r Ardaloedd Chwilio Strategol.

·         Dylid addasu’r targedau i adlewyrchu’r ffaith mai dyhead yw Morglawdd Hafren ac na fydd yn cyfrannu at y targedau hyn yng nghyfnod y cynllun.

·         Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu’r targedau ynni adnewyddadwy ar gyfer 2022 a mabwysiadu targed ar gyfer 2030

·         Dylai Llywodraeth Cymru benodi unigolyn ar lefel Weinidogol i fod yn gyfrifol am gyflawni’r targedau rhwymol. Dylai’r unigolyn gyflwyno adroddiad blynyddol ar y cynnydd tuag at gyflawni’r targedau rhwymol ac argymell mesurau i unioni unrhyw ddiffyg.

 

BLAENORIAETH WRTH WNEUD PENDERFYNIADAU

·         Dylai fod rhagdybiaeth o blaid cynlluniau cymunedol (lle mae perchnogaeth gymunedol yn 5% o leiaf) gyda chapasiti o hyd at 25 MW y tu allan i Ardaloedd Chwilio Strategol TAN 8.

·         Dylid rhoi mwy o ystyriaeth faterol yn y broses gynllunio i’r manteision economaidd sy’n deillio o’r holl ddatblygiadau ynni.

·         Dylid rhoi caniatâd tybiedig i ddatblygiadau ffotofoltäig ar doeon uwchben eiddo masnachol.

·         Dylai awdurdodau cynllunio lleol lunio polisïau cadarnhaol yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol sy’n rhagdybio o blaid datblygu carbon isel i gyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru. Os yw’r CDLl eisoes wedi’i lunio, dylai’r awdurdod cynllunio lleol lunio Canllawiau Cynllunio Interim i ddangos y rôl y bydd yn ei chwarae i sicrhau bod targedau cenedlaethol yn cael eu bodloni.

 

PROSES

·         Dylai fod gofyn i ymgyngoreion statudol ac anstatudol roi ymatebion cynhwysfawr, cyson ac amserol i ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau ynni (2 fis). Mae hyn yn cynnwys CCGC, Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Awdurdod Priffyrdd perthnasol a phob Asiantaeth Priffyrdd.

·         Er mwyn pontio’r bwlch rhwng polisïau cynllunio ac ynni Llywodraeth Cymru a pholisïau awdurdodau cynllunio lleol, bwriedir defnyddio cynllunio rhanbarthol i helpu i sicrhau datblygu carbon isel. Gallai diwygio Cynllun Gofodol Cymru fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer yr ymarfer hwn.

 

SEILWAITH

·         Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu polisi cadarn mewn perthynas â seilwaith gofynnol y Grid Trydan ar gyfer datblygu technolegau carbon isel, gan gynnwys gwynt ar y môr, gwynt ar y tir mewn ardaloedd TAN 8 yn y Canolbarth a’r Gogledd ac Wylfa B. Dylid cyflawni’r polisi hwn o fewn 12 mis a dylai gynnwys ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid allweddol. 

 

YMGYSYLLTU Â RHANDDEILIAID

·         Sianelu safbwyntiau busnes ynghylch datblygu polisi Cymru a’r DU, gan gynnwys y cynnig i uno CCGC, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, a thrafodaethau ynghylch datblygu ymhellach y pwerau ar gyfer cydsyniadau >50MW.

·         Sicrhau bod gwybodaeth well ar gael ynglŷn â’r broses reoleiddio a phwyso am ddealltwriaeth well ymysg y cyhoedd (a thrafodaeth well) am y materion.

 

Hoffai Kevin McCullough, Cadeirydd y Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd, gymryd y cyfle i gyflwyno tystiolaeth lafar i Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.